CLICK HERE for Gift Vouchers - Half Day or Taster Sessions - ideal presents!

image140
image141
  • Home
  • Walking Sessions
  • Contact
  • FAQs / Cwestiynau
  • Cartref
  • Sesiynau Cerdded
  • Cysylltwch
    • Home
    • Walking Sessions
    • Contact
    • FAQs / Cwestiynau
    • Cartref
    • Sesiynau Cerdded
    • Cysylltwch
  • Home
  • Walking Sessions
  • Contact
  • FAQs / Cwestiynau
  • Cartref
  • Sesiynau Cerdded
  • Cysylltwch
British Nordic Walking logo
image142
image143

Profiadau Cerdded dan Arweiniad

nordic walking with poles in the mountain of north wales keeping fit outside on trip to wales

Archebu

Opsiwn 1 - Profiad Cerdded Nordig Hanner Diwrnod

Opsiwn 2 - Sesiwn Flasu Cerdded Nordig

Opsiwn 3 -  Sesiwn Gloywi Cerdded Nordig 


Mae angen o leiaf dau o bobl i gynnal sesiwn felly perswadiwch ffrind i ymuno a chysylltwch â ni. Rydym yn hapus i dderbyn unigolion os oes archebion eraill wedi cyrraedd ar gyfer sesiynau, felly rhowch wybod i ni ac fe wnawn ein gorau i helpu.


Sesiynau Preifat

Os yw’n well gennych chi gadw eich sesiwn ar eich cyfer chi (neu chi a’ch parti) yn unig, nodwch hynny wrth archebu a gallwn roi gwybod i chi beth yw’r gost. Mae sesiynau Blasu a Gloywi ar gael ar sail un i un. Yn anffodus nid yw'r Profiad Hanner Diwrnod ar gael fel sesiwn un i un ond gallwch archebu'r sesiwn fel un 'preifat' am gost ychwanegol. 


I archebu, dewiswch y math o sesiwn, dewiswch ddyddiad, a defnyddiwch y ffurflen gyswllt i weld a yw’r dyddiad hwnnw ar gael.

archebwch fy sesiwn
Keeping fit outdoors, walking with poles and using them for a warm up - good for circulation and pos

Beth yw'r mathau o sesiynau?

Opsiwn 1:  Profiad Cerdded Nordig Hanner Diwrnod  

£35 y pen - 9.30yb - 12.30yp neu  1.30yp - 4.30yp  


Mae'r sesiwn yn dechrau gyda sesiwn friffio gyflym yn y tŷ fferm yng Nghapel Curig, Gogledd Cymru.  Dilynir hyn gan y gwaith o wneud y ffyn yn addas i bawb. Bydd eich hyfforddwr yn gwneud yn siŵr bod y ffyn yn addas ar gyfer eich taldra a'ch bod yn gyfforddus gyda'r man gafael a’r strapiau arddwrn.

Rydym yn cynnwys arddangosiad techneg yn yr awyr agored a bydd pawb yn cael cyfle i ymarfer ar un o'r caeau cyn i ni gychwyn ar ein taith gerdded!

Mae'r llwybr yn cynnwys rhywfaint o gerdded ar y ffyrdd ond llwybrau/traciau yn bennaf fel y gallwn gael rhywfaint o heddwch a llonyddwch a mwynhau rhai o olygfeydd rhyfeddol Eryri. 

Rydym yn gorffen gyda phaned a chacen gri neu fflapjac (dewis fegan a heb glwten ar gael) yn ôl yn y tŷ fferm lle gallwn rannu lluniau - ac os oes angen sychu a chynhesu!


· Cerdded dan arweiniad – 5km - 10km yn dibynnu ar y grŵp 

· Maint grŵp bach rhwng 2 a 10 o bobl 

· Cyfarwyddyd techneg

· Llogi ffyn yn gynwysedig

· Parcio am ddim

· Paned a fflapjac


Opsiwn 2:  Gyflwyniad i Gerdded Nordig - Sesiwn Flasu - 1.5 oriau

£20 y pen - 10yb - 11.30 yb, 2.30yp - 4yp, neu 7yp - 8.30yp (dim ond yn y gwanwyn / haf)


Mae'r sesiwn hon yn canolbwyntio ar eich trawsnewid o ddechreuwr llwyr i fod yn Gerddwr Nordig!  Rydym yn cynnal sesiwn friffio diogelwch cyflym a byddwch yn cael cyflwyniad i fyd Cerdded Nordig.  Yna rydyn ni'n mynd allan i un o gaeau'r fferm i roi’r theori ar waith!  Rydym yn symud yn araf drwy'r 'camau' fel y'u datblygwyd gan INWA - y Ffederasiwn Cerdded Nordig Ryngwladol.  Bydd eich hyfforddwr yn eich tywys ar gyflymder addas i chi a chynyddu eich hyder.  

  

· Maint grŵp bach rhwng 2 a 10 o bobl 

· Cyfarwyddyd techneg

· Mynediad i gaeau'r fferm ar gyfer hyfforddiant/driliau

· Llogi ffyn yn gynwysedig

· Parcio am ddim

  

Rydym yn cynnig Talebau Rhodd i Ddau ar gyfer y ddau brofiad.  Does dim dyddiad terfyn felly mae’n anrheg berffaith.   Sgroliwch i lawr i brynu eich tocyn anrheg nawr!


Opswin 3 - Sesiwn Gloywi Cerdded Nordig - NEWYDD SBON AR GYFER 2021 - Manylion i ddod yn fuan!

nordic walking in snowdonia, north wales, walking with poles to keep fit and active outdoors

Tocyn Anrheg: Profiad Cerdded Nordig Hanner Diwrnod i Ddau

£70.00
Pay with PayPal or a debit/credit card

Trochwch eich hun yn y ffordd o fyw Cerdded Nordig!  Briff diogelwch, ffit ar gyfer polion, cynhesu, cyfarwyddyd techneg, taith gerdded 5 - 10km, ymestyn i dawelu’r corff, ymlacio ar y fferm.  (Golygfeydd godidog o Eryri yn gynwysedig!)


Deffnyddiwch y botwm 'Prynu Tableb Anrheg' i dalu a byddwn yn ebostio'ch tocyn anrheg  wedi'i phersonoli atoch chi.  


Yna, cysylltwch a ni pan fyddwch chi'n barod i archebu.

exercise outdoors, keeping fit and warming up using poles for walking north wales on the farm

Taleb Anrheg: Gyflwyn i Gerdded Nordig - 1.5awr Flasu i Ddau

£40.00
Pay with PayPal or a debit/credit card

Trowch eich hun yn Gerddwr Nordig!  Cyflwyniad i Gerdded Nordig Cerdded, ffitio ar gyfer polion, sesiwn gynhesu, sesiwn dechneg fanwl, gwers ymarferol ar y maes, ymestyn i dawelu’r corff, arholiad ysgrifenedig (dim ond tynnu coes!).  Byddwch yn gadael yn llawn brwdfrydedd i ddefnyddio eich sgiliau newydd!


Deffnyddiwch y botwm 'Prynu Tableb Anrheg' i dalu a byddwn yn ebostio'ch tocyn anrheg  wedi'i phersonoli atoch chi.  


Yna, cysylltwch a ni pan fyddwch chi'n barod i archebu. 

Hysbysiad Covid 19

  Sylwch fod rhai o'r ffotograffau hyn wedi'u tynnu cyn Covid-19.  

Ar hyn o bryd mae cerddwyr yn cadw at gamau cadw pellter cymdeithasol ar ein gweithgareddau awyr agored. 

  

Mae bod yn yr awyr agored yn gadarnhaol o ran lles meddyliol a chorfforol, ac mae eich diogelwch yn bwysig iawn i ni wrth i ni fwynhau’r cerdded yng Ngogledd Cymru yng Nghapel Curig.

Lluniau

Copyright © 2021 Snowdonia Nordic Walking Ltd - All Rights Reserved.

  • Privacy Policy
  • T&Cs / Telerau ac Amodau

Cookies

We use cookies to analyse website traffic and optimise your website experience. By accepting our use of cookies, your data will be aggregated with all other user data. Privacy Policy

Accept