CLICK HERE for Gift Vouchers - Half Day or Taster Sessions - ideal presents!

image327
image328
  • Home
  • Walking Sessions
  • Contact
  • FAQs / Cwestiynau
  • Cartref
  • Sesiynau Cerdded
  • Cysylltwch
    • Home
    • Walking Sessions
    • Contact
    • FAQs / Cwestiynau
    • Cartref
    • Sesiynau Cerdded
    • Cysylltwch
  • Home
  • Walking Sessions
  • Contact
  • FAQs / Cwestiynau
  • Cartref
  • Sesiynau Cerdded
  • Cysylltwch
image329
image330
image331

Cysylltwch

WhatsApp

LL24 0DS, Betws-Y-Coed, Conwy, Wales, United Kingdom

Ffoniwch ar 07909 904445 snowdonianordicwalking@gmail.com

Lleoliad

Trwy'r 'Porth i Eryri'

Wedi’i leoli lle mae’r A5 yn croesi’r A470, mae Betws y-Coed yn cael ei adnabod fel ‘Porth i Eryri’. Mae’r lleoliad wedi'i amgylchynu ar bob ochr gan goedwigoedd, ac mae’r enw’n golygu ‘Noddfa yn y Coed’. Dyma'r lle delfrydol ar gyfer cerdded, beicio a beicio mynydd, ond mae hefyd yn lle gwych i ymlacio! 


Rydym tua 5 munud i fyny'r ffordd tuag at Gapel Curig ar hyd yr A5 yng Ngogledd Cymru.    Mae Capel Curig yn lleoliad gwych ar gyfer gweithgareddau awyr agored ac mae'n boblogaidd iawn ymysg dringwyr a mynyddwyr.  Dewch i weld pam! 


people walking with poles in the outdoors, nordic walking in North Wales, Snowdonia. Using poles for

Chwilio am lety?

 Rydym yn fferm weithiol yng Nghapel Curig yng Ngogledd Cymru, ac rydym hefyd yn cynnig lle i wersylla, "cytiau ieir", a gwely a brecwast.  Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i archebu llety a mwynhau cerdded a'r awyr agored tra byddwch yn aros gyda ni.

Dolgam Campsite and B&B
image332

Cwrdd â hyfforddwr....

Mae Jenny yn hyfforddwr Cerdded Nordig sy’n gymwysedig gan yr INWA ac wedi'i hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf mewn Argyfwng yn yr Awyr Agored, felly byddwch chi mewn dwylo diogel!  


Yn wreiddiol o Landudno gerllaw, symudodd hi i Eryri yn 2015, ar ôl treulio 10 mlynedd yn byw mewn gwahanol ddinasoedd yn Lloegr (a chwe mis heulog yn Awstralia!) "Ar ôl bod i ffwrdd o'r ardal, ac yna symud yn ôl, rydw i wir yn gwerthfawrogi'r harddwch naturiol a'r awyr agored gymaint yn fwy.

Roeddwn i'n awyddus iawn i rannu hyn gyda phobl. Roedd symud yma yn newid llwyr o fyw mewn dinasoedd fel Llundain - ond un yr wyf yn ddiolchgar amdano bob dydd." 


Yn athletwraig triathlon a sgïwr profiadol, rhoddodd Jenny gynnig ar Gerdded Nordig am y tro cyntaf gyda grŵp lleol, tra'n chwilio am ffordd i gadw'n heini yn y tymor tawel. "Es i fy sesiwn gyntaf, ac roeddwn yn rhyfeddu at y profiad a gefais. Roeddwn i'n ystyried fy hun yn eithaf ffit, ond roedd cyflymder y daith gerdded yn syndod, a gwnes i ddarganfod cyhyrau na wyddwn erioed oedd gen i!" 


Ar ôl cael dau o blant yn fuan iawn ar ôl ei gilydd, roedd hi hefyd yn edrych am ddewis arall effeithiol yn lle ymarfer corff cardiofasgwlaidd arferol, a fyddai'n garedig ar y cymalau ac yn dal i helpu cynnal lefelau ffitrwydd. Mae Cerdded Nordig yn bodloni’r gofynion yn berffaith! "Yn anad dim, rwy'n hoff iawn o fynd allan i'r awyr iach a siarad â phobl - mae'n gymaint o hwb i’r hwyliau ac nid wyf byth yn difaru mynd am dro." 


Y nod gwreiddiol wrth lansio Snowdonia Nordic Walking Ltd oedd rhannu'r gamp hygyrch a difyr hon gyda naill ai'r bobl leol, neu'r rhai sy'n ymweld â'r ardal. Mae'n gyfle i weld golygfeydd ysblennydd wrth ddysgu sgil newydd a chael gwybodaeth am ardal hardd a diddorol. Y gobaith yw y byddwch wedi gwneud cysylltiad pan fyddwch yn ein gadael, yn ogystal â chyfle gwych i ymarfer y corff cyfan! 


Copyright © 2021 Snowdonia Nordic Walking Ltd - All Rights Reserved.

  • Privacy Policy
  • T&Cs / Telerau ac Amodau

Cookies

We use cookies to analyse website traffic and optimise your website experience. By accepting our use of cookies, your data will be aggregated with all other user data. Privacy Policy

Accept