CLICK HERE TO BOOK! / ARCHEBWCH YMA!

  • Home
  • Book Session
  • Contact
  • FAQs / Cwestiynau
  • Cartref
  • Archebwch Sesiwn
  • Cysylltwch
  • More
    • Home
    • Book Session
    • Contact
    • FAQs / Cwestiynau
    • Cartref
    • Archebwch Sesiwn
    • Cysylltwch
  • Sign In
  • Create Account

  • Bookings
  • My Account
  • Signed in as:

  • filler@godaddy.com


  • Bookings
  • My Account
  • Sign out

Signed in as:

filler@godaddy.com

  • Home
  • Book Session
  • Contact
  • FAQs / Cwestiynau
  • Cartref
  • Archebwch Sesiwn
  • Cysylltwch

Account


  • Bookings
  • My Account
  • Sign out


  • Sign In
  • Bookings
  • My Account
British Nordic Walking logo

Mae sesiynau ar gael i'w harchebu i leiafswm o ddau o bobl.

Rydym yn hapus i gymryd pobl unigol pan fydd pobl eraill wedi cadw lle ar y sesiwn yn barod, felly os ydych am archebu i chi’ch hun yn unig, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i ganfod lle i chi.

  

Sgroliwch i lawr i weld y disgrifiad Cymraeg o'r sesiynau gan fod ein system archebu ar gael yn Saesneg yn unig.


Mae Llogi Polion Cerdded Nordig wedi'i gynnwys yn rhan o'r sesiwn. Mae cadw'n heini yn yr awyr agored yn ffordd gadarnhaol o wella eich iechyd meddwl a chorfforol.


Rydym yn cynnig Talebau Rhodd i Ddau ar gyfer y Sesiynau Flasu ac y Hanner Diwrnod.  Does dim dyddiad terfyn felly mae’n anrheg berffaith.   Sgroliwch i lawr i brynu eich tocyn anrheg nawr!  

archebwch rwan

Profiadau Cerdded dan Arweiniad

Keeping fit outdoors, walking with poles and using them for a warm up - good for circulation and pos

Beth yw'r mathau o sesiynau?

Opsiwn 1:  Profiad Cerdded Nordig Hanner Diwrnod  

£35 y pen - 9.30yb - 12.30yp neu  1.30yp - 4.30yp  


Mae'r sesiwn yn dechrau gyda sesiwn friffio gyflym yn y tŷ fferm yng Nghapel Curig, Gogledd Cymru.  Dilynir hyn gan y gwaith o wneud y ffyn yn addas i bawb. Bydd eich hyfforddwr yn gwneud yn siŵr bod y ffyn yn addas ar gyfer eich taldra a'ch bod yn gyfforddus gyda'r man gafael a’r strapiau arddwrn.

Rydym yn cynnwys arddangosiad techneg yn yr awyr agored a bydd pawb yn cael cyfle i ymarfer ar un o'r caeau cyn i ni gychwyn ar ein taith gerdded!

Mae'r llwybr yn cynnwys rhywfaint o gerdded ar y ffyrdd ond llwybrau/traciau yn bennaf fel y gallwn gael rhywfaint o heddwch a llonyddwch a mwynhau rhai o olygfeydd rhyfeddol Eryri. 

Rydym yn gorffen gyda phaned a chacen gri neu fflapjac (dewis fegan a heb glwten ar gael) yn ôl yn y tŷ fferm lle gallwn rannu lluniau - ac os oes angen sychu a chynhesu!


· Cerdded dan arweiniad – 5km - 10km yn dibynnu ar y grŵp 

· Maint grŵp bach rhwng 2 a 10 o bobl 

· Cyfarwyddyd techneg

· Llogi ffyn yn gynwysedig

· Parcio am ddim

· Paned a fflapjac


Opsiwn 2:  Gyflwyniad i Gerdded Nordig - Sesiwn Flasu (1.5 oriau)

£20 y pen - 9.30yb - 11yb, 2.30yp - 4yp, neu 7yp - 8.30yp* (*dim ond yn y gwanwyn / haf)


Mae'r sesiwn hon yn canolbwyntio ar eich trawsnewid o ddechreuwr llwyr i fod yn Gerddwr Nordig!  Rydym yn cynnal sesiwn friffio diogelwch cyflym a byddwch yn cael cyflwyniad i fyd Cerdded Nordig.  Yna rydyn ni'n mynd allan i un o gaeau'r fferm i roi’r theori ar waith!  Rydym yn symud yn araf drwy'r 'camau' fel y'u datblygwyd gan INWA - y Ffederasiwn Cerdded Nordig Ryngwladol.  Bydd eich hyfforddwr yn eich tywys ar gyflymder addas i chi a chynyddu eich hyder.  

  

· Maint grŵp bach rhwng 2 a 10 o bobl 

· Cyfarwyddyd techneg

· Mynediad i gaeau'r fferm ar gyfer hyfforddiant/driliau

· Llogi ffyn yn gynwysedig

· Parcio am ddim

  

Opsiwn 3:  Cerdded Nordig Cam Nesa (1.5 oriau)

£20 y pen - 9.30yb - 11yb, 2.30yp - 4yp, neu 7yp - 8.30yp* (*dim ond yn y gwanwyn / haf)

  

Ydych chi wedi rhoi cynnig ar Gerdded Nordig o'r blaen ac eisiau ailgydio ynddi? 

P'un a oedd hynny ychydig fisoedd yn ôl, neu flynyddoedd lawer yn ôl, gall y sesiwn hon eich helpu i gofio a gwella eich techneg Cerdded Nordig.

Mae'r cwrs Cam Nesa wedi’i deilwra i'ch gofynion unigol chi, felly gallwn ganolbwyntio ar gerdded bryniau (i fyny ac i lawr y bryniau), gwaith cyflym, cywiro problemau gyda thechneg, a magu hyder i gerdded ar wahanol fathau o dir. 

Byddwn yn ailadrodd y 5 Cam INWA cyntaf, ac yn adeiladu ar y rhain gyda chamau 6-10 yn raddol i wella'ch techneg ac i sicrhau eich bod yn cael y budd mwyaf o gerdded gyda pholion.

  

· Grwpiau o faint bach, rhwng 1 a 5 o bobl 

· Cyfarwyddyd mewn Techneg Uwch

· Hawl i ddefnyddio caeau'r fferm ar gyfer hyfforddiant/ymarferion

· Mae’r gost o logi Polion Cerdded Nordig wedi'i chynnwys yn y pris

· Parcio am ddim


nordic walking in snowdonia, north wales, walking with poles to keep fit and active outdoors

Tocyn Anrheg: Profiad Cerdded Nordig Hanner Diwrnod i Ddau

£70.00
Pay with PayPal or a debit/credit card

Trochwch eich hun yn y ffordd o fyw Cerdded Nordig!  Briff diogelwch, ffit ar gyfer polion, cynhesu, cyfarwyddyd techneg, taith gerdded 5 - 10km, ymestyn i dawelu’r corff, ymlacio ar y fferm.  (Golygfeydd godidog o Eryri yn gynwysedig!)


Deffnyddiwch y botwm 'Prynu Tableb Anrheg' i dalu a byddwn yn ebostio'ch tocyn anrheg  wedi'i phersonoli atoch chi.  


Yna, cysylltwch a ni pan fyddwch chi'n barod i archebu.

exercise outdoors, keeping fit and warming up using poles for walking north wales on the farm

Taleb Anrheg: Gyflwyn i Gerdded Nordig - 1.5awr Flasu i Ddau

£40.00
Pay with PayPal or a debit/credit card

Trowch eich hun yn Gerddwr Nordig!  Cyflwyniad i Gerdded Nordig Cerdded, ffitio ar gyfer polion, sesiwn gynhesu, sesiwn dechneg fanwl, gwers ymarferol ar y maes, ymestyn i dawelu’r corff, arholiad ysgrifenedig (dim ond tynnu coes!).  Byddwch yn gadael yn llawn brwdfrydedd i ddefnyddio eich sgiliau newydd!


Deffnyddiwch y botwm 'Prynu Tableb Anrheg' i dalu a byddwn yn ebostio'ch tocyn anrheg  wedi'i phersonoli atoch chi.  


Yna, cysylltwch a ni pan fyddwch chi'n barod i archebu. 

Hysbysiad Covid 19

  Sylwch fod rhai o'r ffotograffau hyn wedi'u tynnu cyn Covid-19.  

Ar hyn o bryd mae cerddwyr yn cadw at gamau cadw pellter cymdeithasol ar ein gweithgareddau awyr agored. 

  

Mae bod yn yr awyr agored yn gadarnhaol o ran lles meddyliol a chorfforol, ac mae eich diogelwch yn bwysig iawn i ni wrth i ni fwynhau’r cerdded yng Ngogledd Cymru yng Nghapel Curig.

Lluniau

Copyright © 2021 Snowdonia Nordic Walking Ltd - All Rights Reserved.

  • Privacy Policy
  • T&Cs / Telerau ac Amodau

Cookies

We use cookies to analyse website traffic and optimise your website experience. By accepting our use of cookies, your data will be aggregated with all other user data. Privacy Policy

Accept